#112 - Arbrawf Cnau Ffrengig Cymru
01/26/25 • 16 min
Croeso i 'Arbrawf Cnau Ffrengig Cymru,' lle rydym yn archwilio potensial tyfu cnau yng Nghymru. Yn y bennod hon, cawn gwrdd â Martyn Williams o Sir Gaerfyrddin sydd wedi mentro i fyd cynhyrchu coed cnau. Gyda chefnogaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, mae wedi plannu coed cnau Ffrengig a chastanwydd melys ar ei dir, gan obeithio datgloi ffynhonnell newydd o incwm a chyfrannu at ddyfodol amaethyddol mwy cynaliadwy. Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio i heriau a gwobrau’r prosiect uchelgeisiol hwn, a darganfod a all Cymru ddod yn hafan i dyfwyr cnau. Mae Tom Tame, sy'n tyfu Cnau Ffrengig yn fasnachol ar fferm ei deulu yn Swydd Warwick, yn ymuno â Geraint Jones Swyddog Arbenigol Coedwigaeth hefyd.

Previous Episode

#109 - Mae rheoli llyngyr yr iau yn llwyddiannus yn bwysig ar gyfer cynhyrchu defaid yn gynaliadwy
Yn y bennod fer hon byddwn eto yn ymweld â fferm Lower House, Llandrindod. Y tro hwn cawn glywed gan Dr Rhys Jones, Darlithydd o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth. Daw Rhys yn wreiddiol o Ogledd Cymru, ac fe’i magwyd ar fferm bîff a defaid yr ucheldir. Mae'n dal i gymryd diddordeb mawr yn y fferm deuluol yn ogystal â materion Amaethyddol ehangach. Mae ei ddiddordebau ymchwil ym maes parasitoleg filfeddygol, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu technegau rheoli parasitiaid cynaliadwy ar gyfer cynhyrchwyr da byw. Mae Rhys yn trafod sut mae Rob Lyons wedi bod yn rhan o brosiect ehangach sy’n cynnwys 16 fferm sy’n edrych ar Lyngyr yr Iau. Wrth i boblogaethau llyngyr yr iau ddatblygu ymwrthedd yn gyflym i rai triniaethau cyffuriau, mae'n rhaid defnyddio strategaethau rheoli amgen sy'n canolbwyntio ar osgoi haint trwy bori a rheoli tir ar ffermydd. Fodd bynnag, er mwyn i’r mesurau hyn fod yn effeithiol, mae’n hollbwysig ein bod yn gallu nodi’n gywir yr ardaloedd lle mae risg o haint llyngyr yr iau ar ffermydd a chaeau.
Next Episode

#113 - Atal Cloffni: Ffermwyr yn arwain y ffordd
A yw cloffni yn broblem ar eich fferm laeth? Er gwaethaf degawdau o ymdrech, mae cloffni yn parhau i fod yn hêr i ffermwyr llaeth. Mae’r podlediad hwn yn archwilio prosiect arloesol Partneriaeth Arloesedd Ewropeaidd (EIP) Cymru sy’n mynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol. Ymunwch â ni wrth i ni edrych yn fanwl ar ymyriadau ymarferol, a darganfod sut mae ffermwyr llaeth Cymru yn cydweithio i wella cofnodion cloffni. Cyflwynir y podlediad hwn gan filfeddyg arweiniol y prosiect, Sara Pedersen o Farm Dynamics Ltd. Yn ymuno â hi mae tair fferm o ardal Casnewydd a Sir Fynwy, sydd wedi edrych ar ddod o hyd i strategaethau y gellir eu rhoi ar waith ar eu ffermydd i leihau achosion o gloffni yn eu buchesi.
If you like this episode you’ll love
Episode Comments
Generate a badge
Get a badge for your website that links back to this episode
<a href="https://goodpods.com/podcasts/ear-to-the-ground-clust-ir-ddaear-579951/112-arbrawf-cnau-ffrengig-cymru-82964688"> <img src="https://storage.googleapis.com/goodpods-images-bucket/badges/generic-badge-1.svg" alt="listen to #112 - arbrawf cnau ffrengig cymru on goodpods" style="width: 225px" /> </a>
Copy